Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
CAP 17 – CFfI Cymru
Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru / WALES YFC
Cyflwyniad
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y cyfle i fynegi ei safbwyntiau. Fel sefydliad, yr ydym wedi ymroddi i uchafu’r cyfleoedd sydd ar gael i ieuenctid cefn gwlad Cymru.
CFfI Cymru
Mae gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru tua 6000 o aelodau rhwng 10 a 26 oed mewn 160 o glybiau ymhob rhan o Gymru, ac mae’r aelodau’n Bobl Ifanc flaengar sy’n barod i groesawu newidiadau i sicrhau dyfodol i amaethyddiaeth a Chymru wledig.
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I’R POLISI AMAETHYDDOL CYFFREDIN
FFERMWYR IFANC
Mae CFfI Cymru wedi croesawu’r alwad am ragor o fesurau polisi ar gyfer pobl ifanc yn y Polisi Amaethyddol Cyffredinol diwygiedig wedi 2013. Mae’r sefydliad yn croesawu’r syniad o gael cronfeydd cenedlaethol wedi’u hanelu at ffermwyr ifanc a chronfa’r dyfodol, yn ogystal â buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant i gynorthwyo i gyflawni nodau diwydiant y dyfodol, a fydd yn gystadleuol ac yn sensitif i adnoddau. Cydnabyddir yn gyffredinol y gwnaiff gwell proffidioldeb a sefydlogrwydd ddenu mwy o newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant. Mae ystadegau yn sgil ymchwil diweddar gan Lantra wedi canfod fod rhaid i fusnesau Cymru recriwtio bron iawn i 26,000 o newydd-ddyfodiad â phob lefel o gymhwyster i ddiwydiannau'r tir a diwydiannau amgylcheddol dros y ddegawd nesaf, dim ond i gynnal lefelau presennol y gweithlu, sydd oll yn dymuno gweld diwydiant cryf. Dengys ystadegau oedran cyfartalog ffermwyr fod 6% o ffermwyr yn Ewrop o dan 35 oed, o’i gymharu â 2.8% yn y Deyrnas Unedig.
Dengys canlyniadau prosiect ymchwil CFfI a Lantra fod 83% o aelodau CFfI a arolygwyd yn ystyried dilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth yn y dyfodol, ac roedd 57% o’r rhai a arolygwyd yn gobeithio bod yn berchen ar fferm rywbryd yn ystod y 15 mlynedd nesaf o’u gyrfa. Mae ffermwyr ifanc yn awyddus i gael cyfleoedd addysg a hyfforddiant, gwasanaethau ymgynghorol amaethyddol a chyfnewid arferion gorau er mwyn moderneiddio amaethyddiaeth ac annog arloesedd. Yr oedd y pryderon a’r materion oedd yn wynebu ffermwyr ifanc wrth iddynt gychwyn ffermio yn cynnwys rhwystrau megis cyfyngiadau ariannol a busnes.
Mae CFfI Cymru yn teimlo’n gryf y dylai ffermwyr ifanc gael rhan sylweddol mewn ffermio cynaliadwy, ac yn sgil y pwyslais cynyddol ar wella’r amgylchedd a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol, dylai mesurau fod yn eu lle i ddenu ffermwyr a rheolwyr tir y dyfodol i’r diwydiant. Fe wnaiff hyn gyfrannu at wella cynhyrchiant a chynhyrchu bwyd trwy ddulliau ecogyfeillgar.
Mae’r sefydliad yn credu’n gryf y dylid rhoi pwyslais enfawr ar strwythurau ffermydd Awdurdodau Lleol fel man cychwyn hanfodol i newydd-ddyfodiaid, a byddai hynny’n annog a chynorthwyo newydd-ddyfodiaid y diwydiant amaethyddol i sicrhau ei gyflwr iach a’i hyfywedd yn y tymor hir; annog y sawl sy’n rhan o’r diwydiant i gynllunio ymlaen llaw ac ystyried cyfleoedd a dewisiadau newydd. Mae cefnogaeth ar gael i ffermwyr ifanc yn y diwygiadau arfaethedig wedi iddynt ymuno â’r diwydiant; fodd bynnag, cred CFfI Cymru y dylid hyrwyddo amaethyddiaeth fel gyrfa, a dylid cefnogi ac annog newydd-ddyfodiaid, a rhoi’r sgiliau iddynt sy’n angenrheidiol i ymuno â’r diwydiant. Credwn y dylid edrych ar anghenion strwythur busnes y dyfodol, e.e. Ffermio Cyfran, sicrhau fod ffermydd cyntaf / ffermydd Awdurdodau Lleol yn ddigon hyfyw a modern i newydd-ddyfodiaid.
Hyd yn hyn, mae aelodau CFfI wedi cynnig awgrymiadau a safbwyntiau i Gyngor Ffermwyr Ifanc Ewrop (CEJA) a grwpiau Rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru. Mae cynrychiolwyr CFfI wedi cefnogi galwad CEJA am gyfuniad o fesurau polisi sy’n cynnwys:
· Taliadau atodol Colofn 1 yn ystod y blynyddoedd cyntaf wedi i newydd-ddyfodiaid gychwyn ffermio
· Cronfa genedlaethol o hawliau – blaenoriaeth i ffermwyr ifanc
· Gwell buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant
MATERION YN YMWNEUD Â’R ‘TALIAD I FFERMWYR IFANC’
Mae dadl o blaid gwneud polisi’r Undeb Ewropeaidd ar newydd-ddyfodiaid yn fandadol. Cred CFfI Cymru y dylai ‘hyd at 2% o’r uchafswm cenedlaethol blynyddol’ i gefnogi ffermwyr ifanc fod yn fandadol, nid yn ddewisol – dylai’r 2% fod yn lleiafswm.
· A fydd rhaid i ffermwyr ifanc ffermio arwynebedd penodol o dir yn ychwanegol at y Gofynion Lleiaf ar gyfer cael Taliadau Uniongyrchol cyn y cânt daliad atodol?
· Byddai CFfI Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyd-drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau mai €200 neu 5Ha fydd y gofyniad lleiaf o ran cael taliadau uniongyrchol.
· Faint o gyfran o’r busnes fydd rhaid i’r Ffermwr Ifanc ei gael?
· Mynegodd aelodau eu pryder am sefyllfa newydd-ddyfodiad a fydd wedi cychwyn eu busnes cyn 2014/15. Gofynnwyd a fyddent o dan fwy o anfantais, yn sgil cystadleuaeth annheg gan ffermwyr presennol yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ogystal â newydd-ddyfodiaid a fydd â chymorthdaliadau uwch. Gallai hynny ddigwydd, felly a fuasid yn caniatáu iddynt gael mynediad at gronfeydd ariannol?
TALIADAU’N SEILIEDIG AR ARWYNEBEDD
Cwestiynwyd y system taliadau arfaethedig gan ystyried y gallai’r canlynol fod yn rhwystr:
· Hawlir y Taliad Sengl gan berchennog y tir tra bydd y newydd-ddyfodiad yn defnyddio’r tir fel tir pori, i ddatblygu ei braidd neu ei fusnes yn y lle cyntaf.
· Fel arall, os byddai perchennog y tir yn caniatáu i’r newydd-ddyfodiad gael yr hawl er mwyn hawlio’r taliad atodol, sut fyddai hyn yn effeithio ar lefel y rhent?
Byddai CFfI Cymru yn hoffi gweld system o daliadau a fyddai’n achosi cyn lleied â phosibl o drafferthion i’r gymuned amaethyddol bresennol, oherwydd mae llawer o’n haelodau yn ymwneud â’r busnesau hyn, ond rydym hefyd yn cytuno â pholisi’r Undeb Ewropeaidd o greu system sy’n seiliedig yn llwyr ar arwynebedd erbyn 2019. Yn gyffredinol, mae’r aelodau’n cefnogi’r syniad traddodiadol o gael system sy’n seiliedig ar arwynebedd fel a ganlyn; Model talu syml a fydd yn cynnwys taliad gweundir a chomin a thaliad i bawb arall. Os caiff system gyfradd safonol ei chynnwys ar draws Cymru gyfan, telir 235 ewro am bob Hectar. Os bydd rhaniad rhwng gweundir a phawb arall, â chyfradd lai ar gyfer gweundir, bydd hyn yn caniatáu taliadau uwch ar gyfer ffermydd mwy cynhyrchiol, ac felly caiff colledion y ffermydd hyn eu lleihau wedi 2014.
Fodd bynnag, bydd aelodau CFfI Cymru yn hoffi gweld rhagor o waith modelu yn cael ei wneud ar effaith gwahanol gyfraddau talu ar y diwydiant amaethyddol.
NODYN ARBENNIG: Yn ystod trafodaethau diweddar iawn ag aelodau, daeth yn amlwg fod cefnogaeth ar gyfer y dull talu canlynol, pa un ai a gaiff ei ystyried ar gyfer y diwygiadau hynny neu’r diwygiadau nesaf wedi 2019.
Awgrymir cael dull o gyfrifo "maint" y busnes (yn hytrach nag arwynebedd y tir neu nifer yr anifeiliaid, sydd wedi bod yn sail i daliadau yn y gorffennol).
Gellid defnyddio’r tablau y mae Llywodraeth
Cymru wedi’u llunio ar gyfer Cyswllt Ffermio a’r
Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i gyfrifo maint y busnes mewn
oriau gwaith ac yna dosbarthu’r taliadau yn unol â
hynny (gan gynnwys unrhyw gymalau y credir eu bod yn
angenrheidiol).
Trwy ddilyn y trywydd hwn, byddai rhai agweddau
positif, ond yn bwysicaf oll o’n safbwynt ni, byddai hyn yn
diddymu’r ddadl ar ddiffiniad ‘ffermwr
actif’ – bydd ffermwr sydd ond yn gosod ei dir yn
cronni llawer llai o oriau gwaith na rhywun sy’n ei "ffermio"
(cadw defaid neu wartheg ayyb), felly byddai’n cael taliad
llawer llai. I alluogi rhywun i fanteisio i’r eithaf ar eu
tir, byddai rhaid iddynt sicrhau y câi ei ddefnyddio’n
llawn. Byddai hynny’n golygu gosod y tir yn llwyr (a pheidio
hawlio taliad amdano) neu werthu’r tir.
Gellir dadlau mai "talu am gynhyrchu" yw hyn,
sy’n groes i reolau’r WTO; fodd bynnag, buasem yn
dadlau y byddai trosi cynhyrchiant y busnes yn oriau gwaith yn creu
mynegai mesuradwy a fyddai’n caniatáu cymhariaeth
decach o fusnesau trwy Gymru, y Deyrnas Unedig a hyd yn oed yr
Undeb Ewropeaidd. Er y byddai cynyddu cynhyrchiant yn cynyddu
taliadau, dangosir yma ei fod yn cynyddu’r nifer o oriau
gwaith sy’n angenrheidiol, a allai arwain at fwy o waith, ac
yn sgil hynny, rhagor o arian i economïau gwledig ayyb.
FFERMWR ACTIF
Cred CFfI Cymru fod y diffiniad presennol o ‘Ffermwr actif’ yn anymarferol ac yn rhy gymhleth. Un o’r problemau pennaf sy’n wynebu newydd-ddyfodiaid ifanc yw’r gallu i rentu tir am rent rhesymol yn y tymor hir. Ar hyn o bryd, teimlwn fod llawer o ffermwyr yn hawlio cymhorthdal ac yna’n gosod eu tir ar gytundeb 11 mis. Credwn fod hyn yn lleihau’r cyfanswm o dir sy’n cael ei osod yn y tymor hir ac mae’n cynyddu oedran cyfartalog ffermwyr Cymru yn sylweddol, oherwydd bydd y ffermwyr hyn fel arfer yn tynnu at ddiwedd eu gyrfa. Mae hefyd yn anfantais fawr i newydd-ddyfodiaid ifanc, oherwydd bydd sawl fferm yn cystadlu am y tir hwn i bori stoc dros yr haf neu’r gaeaf. Ni all newydd-ddyfodiaid ifanc fforddio’r rhenti hyn.
Pe câi’r taliad sengl ei hawlio yn yr un modd â thaliad presennol Tir Mynydd, byddai’r ffermwr actif yn cael y cymhorthdal a byddai hyn yn galluogi i newydd-ddyfodiaid ifanc gystadlu’n deg am dir rhent. Yna, byddai’r tir yn fwy tebyg o gael ei osod ar gytundebau tymor hirach, a fyddai’n cynnig rhagor o sefydlogrwydd i’r newydd-ddyfodiad ifanc.
YR AMGYLCHEDD
Mae aelodau wedi mynegi pryder am y canlynol:
· Na ddylai elfen Werdd y Cynllun Taliad Sylfaenol fod yn fesur mandadol, ond yn hytrach, yn fesur gwirfoddol. Mae’n elfen anhyblyg a llym iawn sy’n cyfyngu ar ffermwyr, ac yn cymhlethu’r ‘Cynllun Taliad Sylfaenol’. Mae’r elfen ‘Werdd’ yn amharu ar gynhyrchiant.
· Os bydd yr ‘elfen werdd’ yn cael ei chynnwys fel elfen orfodol, dylid eithrio ffermwyr sy’n rhan o Gynllun Amgylcheddol. Os nad ydynt yn rhan o Gynllun Amgylcheddol, dylai dewislen o fesurau fod ar gael y gallant ddewis o’u plith.
· Ardaloedd Ecolegol – mae aelodau’n credu fod neilltuo isafswm o 7% o hectarau cymwys yn hynod o uchel! Am bob can hectar o’u tir, byddai gan ffermwyr 7 hectar o dir na ellid ei ddefnyddio, a byddai hynny’n arwain at golledion enfawr o dir cynhyrchiol.
Mae poblogaeth y byd yn debyg o fod yn uwch na chyfanswm syfrdanol o 7 biliwn eleni, ac mae un o bob pump o’r boblogaeth bellach dros 60 mlwydd oed. Erbyn 2050, bydd un o bob tri o boblogaeth y byd dros 60, ac i waethygu pethau, bydd poblogaeth y byd yn parhau i gynyddu - mae rhagolygon poblogaeth tymor canolig y Cenhedloedd Unedig yn rhagweld poblogaeth fyd-eang o tua 9 biliwn o bobl.
Er bod angen diogelu cynefinoedd bregus, onid oes gennym hefyd gyfrifoldeb cymdeithasol enfawr i sicrhau system gyflenwi bwyd diogel a chadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt? Yn ddiau felly, mae’n bwysig rhoi’r gefnogaeth a’r dulliau i ffermwyr sydd â thir cynhyrchiol, fel y gallant gynhyrchu bwyd yn hyderus ar gyfer poblogaeth fyd-eang sy’n parhau i heneiddio, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd yn unig.
CASGLIAD
I gloi, mae CFfI Cymru yn falch iawn o weld pwyslais ar ffermwyr ifanc yn y cynigion; mae’n dda iawn gweld fod pwysigrwydd y genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifanc wedi cael cydnabyddiaeth o’r diwedd. Fodd bynnag, yn sgil y pwyslais cryf ar symleiddio mewn ymgynghoriadau a thrafodaethau blaenorol, teimla ein haelodau’n rhwystredig fod y Comisiwn fel pe bai’n ceisio cymhlethu gweinyddiaeth y PAC. Byddai hyn yn golygu beichiau ychwanegol ar ffermwyr Cymru.
Yn
ogystal â chynnal cefnogaeth ar gyfer arferion amgylcheddol
da a chynhyrchu bwyd yn gystadleuol, mae pwyslais y cynigion
presennol ar annog entrepreneuriaid amaethyddol y dyfodol a’r
sawl sy’n ystyried cychwyn yn y diwydiant.
Byddai CAP cryf yn cefnogi swyddi yng nghymunedau
gwledig a threfol ehangach Cymru, gan gynnal cydlyniad cymdeithasol
a diogelu diwylliannau, ieithoedd a thraddodiadau cynhenid. Byddai
unrhyw symudiad sylweddol oddi wrth gefnogaeth uniongyrchol i
gynhyrchwyr bwyd yn arwain at niwed cymdeithasol, demograffig a
gwleidyddol anwrthdroadwy. Mae cynnig cyfleoedd gwaith dichonadwy a
thymor hir i bobl ifanc yn hanfodol i sicrhau y bydd cymunedau
Cymru wledig, a’u diwylliannau a’u hiaith, yn parhau i
ffynnu.